51ÊÓÆµ

Close icon

Personalise what you see on this page.

Choose from the options below. We'll show you information based on your current location as default.

I'M FROM

  • Hong Kong
Please select so we can show the most relevant content.

LIVING IN

  • Hong Kong
Please select so we can show the most relevant content.

LOOKING FOR

  • Undergraduate courses
Please select so we can show the most relevant content.
Viewing as a student from Hong Kong living in Hong Kong interested in Undergraduate courses

Cymraeg (i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith) BA (Hons)

Aberystwyth University

Add to favourites

Course options

  • Qualification

    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)

  • Location

    Main Site (Aberystwyth)

  • Study mode

    Full time

  • Start date

    22-SEP-25

  • Duration

    3 Years

Course summary

Wrth ddewis astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno â chymuned Gymraeg fyrlymus, o fewn y brifysgol a'r tu allan. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr, o Gymru a’r tu hwnt, o fewn tref ac ardal ddwyieithog sy'n llawn hanes, a lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol. Byddi'n dysgu am lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth, hanes a chymdeithaseg Cymru. Bydd hyn oll yn ehangu dy orwelion a bydd dy wybodaeth am Gymru'n werthfawr wrth iti ymgeisio am swyddi yng Nghymru heddiw.Mae’r cynllun gradd hwn yn addas i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith, ac i siaradwyr iaith gyntaf. Beth bynnag yw dy sefyllfa di, tyrd i ymuno â ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd gradd yn y Gymraeg yn profi dy fod yn gallu mynegi dy hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.- Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.- Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.- Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu, ac mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.- Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).- Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.- Dewis eang o fodiwlau - Byddi'n astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio. - Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg (NSS 2020).Rydym yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.


Beth fydda i’n ei ddysgu?

Dyma grynodeb:Iaith Gyntaf - Yn y flwyddyn gyntaf cei gyfle i weld pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i ti. Byddi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc er mwyn gallu dewis dy gyfuniad unigryw di o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.Ail Iaith - Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n cael dy ddysgu ar wahân i'r myfyrwyr iaith gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle iti fagu hyder a gwella dy sgiliau iaith gyda chefnogaeth staff a dy gyd-fyfyrwyr. Yn yr ail flwyddyn byddi'n dilyn modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu dy hyder ymhellach a byddi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran.


Sut bydda i’n cael fy addysgu?

Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.


Sut bydda i'n cael fy asesu?

Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu c

Application deadline

29 January

Tuition fees

Students living in Hong Kong
(International fees)

£ 18,170per year

Tuition fees shown are for indicative purposes and may vary. Please check with the institution for most up to date details.

Entry requirements

Choose a qualification

A level : CCC - BBB

To include C in A-level Welsh 1st or 2nd Language.

VIEW MORE
Email

Do you need to know more?

Ask a question directly and subscribe to this university

REQUEST INFO

University information

Aberystwyth University

Aberystwyth University

  • University League Table

    42nd

  • Campus address

    Aberystwyth University, Penglais, Aberystwyth, Wales, SY23 3FL, Wales

Aberystwyth’s exceptional teaching, incredible location and welcoming community attract students from over 100 countries.
The university has a dedicated International Student Adviser who offers professional, specialised and regulated advice on study visas and graduate visas.

Subject rankings

  • Subject ranking

    2nd out of 4

  • Entry standards

    / Max 170
    165 97%

    2nd

  • Graduate prospects

    / Max 100
    n/a

  • Student satisfaction

    / Max 4
    3.54 88%

    2nd

    1

Is this page useful?

Yes No

Sorry about that...

HOW CAN WE IMPROVE IT?

SUBMIT

Thanks for your feedback!